Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 22 Medi 2022
Amser:
09.30 -
12.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12963
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Ruth Glazzard, Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Archwilio Cymru, Lindsay Foyster, Archwilio Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Ann-Marie Harkin, Archwilio Cymru Laurie Davies, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 – Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol – 12 Gorffennaf 2022
2.2 PTN 2 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datganiad o egwyddorion i gyrff a ariennir yn uniongyrchol – 14 Gorffennaf 2022
2.3 PTN 3 - Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Pwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru – 20 Gorffennaf 2022
2.4 PTN 4 – Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 – 26 Gorffennaf 2022
2.5 PTN 5 – Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Ymgynghoriad ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 – 5 Awst 2022
2.6 PTN 6 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Adroddiad ar Alldro 2020-21 – 5 Awst 2022
2.7 PTN 7 – Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Cyllideb Atodol Gyntaf 2022-23 / Trefniadau Cyllid yr UE – 22 Awst 2022
2.8 PTN 8 - Llythyr gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Gwaith ynghylch Safonau Cwynion - 7 Medi 2022
3 Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor Wrandawiad Cyn Penodi’r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer swydd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, Ruth Glazzard.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5, 6, 9, 10 ac 11, ac o ddechrau'r cyfarfod ar 29 Medi 2022
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Gwrandawiad cyn penodi Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor addasrwydd yr ymgeisydd a ffefrir.
6 Trefniadau ariannu ar ôl ymadael â’r UE: Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad â rhai mân newidiadau.
Cyhoedd
7 Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 a Chynllun Blynyddol 2022-23: Sesiwn dystiolaeth
7.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.
7.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar yr adeg briodol am y costau gwirioneddol am:
· Archwilio cyfrifon 2020-21 Llywodraeth Cymru.
8 Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol 2022-23: Sesiwn dystiolaeth
8.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, a swyddogion Archwilio Cymru.
8.2 Cytunodd Archwilio Cymru i ddarparu rhagor o fanylion ar yr adeg briodol am y costau gwirioneddol am:
· dadfeilion yng nghyd-destun Heol y Gadeirlan.
Preifat
9 Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol 2022-23: Trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd mewn egwyddor i'r cais am gyllid.
10 Archwilio Cymru – Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22 a Chynllun Blynyddol 2022-23: Trafod y dystiolaeth
10.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
11 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2023-24 – Y Dull o Graffu ar y Gyllideb
11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y papurau ar y dull o gynnal y gwaith craffu ar y gyllideb.
12 Goblygiadau ariannol Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
12.1 Trafododd y Pwyllgor y dogfennau ategol a chytunodd i gymryd tystiolaeth gan y Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd ar oblygiadau ariannol y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru).